Fe fydd un o bwyllgorau San Steffan yn clywed gan arbenigwyr heddiw am broblemau cyffuriau mewn carchardai yng Nghymru.

Fe fu cynnydd o 475% ers 2013 yn nifer y cyffuriau sydd wedi cael eu darganfod yng ngharchardai Cymru, yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi.

Cafodd cyffuriau eu darganfod 114 o weithiau yn 2013, o’i gymharu â 656 o weithiau eleni.

Yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam cafodd cyffuriau eu darganfod 46 o weithiau ers ei agor y llynedd.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi addo gwario £30m ar fesurau diogelwch er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa ond yn ôl Cymdeithas y Swyddogion Carchardai, mae’r sefyllfa’n adlewyrchu prinder staff.

Cyflwyno tystiolaeth

Bydd nifer o arbenigwyr yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig – y Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Graham Barrett (Llywodraethwr Carchar Abertawe), Nick Dann (Dirprwy Gyfarwyddwr Prosiect Carchar Berwyn), Janet Wallsgrove (Cyfarwyddwr G4S Carchar y Parc) ac Amy Rees (Rheolwr Gyfarwyddwr Carchardai a Gwasanaeth Prawf Cymru).

Cyfrifoldeb Llywodraeth Prydain yw’r carchardai, ond mae meysydd fel iechyd, addysg, tai a chamddefnyddio sylweddau wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru.

Mae’r pwyllgor eisoes wedi clywed gan swyddogion carchardai, cynrychiolwyr undebau, elusennau tros ddiwygio carchardai, y prif arolygydd carchardai, yr ombwdsmon carchardai a Chomisiynydd y Gymraeg.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi ymweld â charchardai Cymru ac mae disgwyl i’r sesiwn ddiweddaraf ganolbwyntio ar leoli carcharorion, amodau’r carchardai a rôl Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.

‘Adferiad’

Ar drothwy’r sesiwn, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David T.C. Davies, “Hyd yn hyn, mae ein hymchwiliad wedi canolbwyntio ar feysydd megis gwasanaethau carchardai, y gwahaniaethau rhwng cyfleusterau cyhoeddus a phreifat, a’r amodau y caiff carcharorion eu rhoi ynddyn nhw.

“Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan ein tystion am hyn a materion allweddol eraill yn ymwneud â chyfiawnder troseddol yng Nghymru, yn ogystal ag ymchwilio ymhellach i rôl Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi wrth sicrhau bod yr holl garcharorion yn cael y cyfle gorau i gael adferiad.”