Fe fydd dau o swyddogion yr SAS yn wynebu llys milwrol tros farwolaeth tri o filwyr yn ystod ymarferiad mewn gwres llethol ym Mannau Brycheiniog.
Bu farw Craig Roberts o Fae Penrhyn ac Edward Maher o Winchester yn ystod haf 2013 o ganlyniad i’r gwres wrth geisio cerdded 16 milltir dros y Bannau fel rhan o brawf milwrol.
Bu farw James Dunsby o Trowbridge yn yr ysbyty bythefnos yn ddiweddarach.
Mae dau o swyddogion yr SAS, sydd ond yn cael eu hadnabod fel 1A ac 1B, yn gwadu esgeulustod wrth gwblhau eu dyletswydd drwy fethu â gofalu am iechyd a diogelwch y milwyr oedd yn cymryd rhan yn y prawf.
1A ac 1B
Bydd y ddau swyddog, sy’n cael aros yn ddienw, yn wynebu achos yn Swydd Wiltshire.
Roedd 1A yn gapten oedd yn swyddog hyfforddiant â chyfrifoldeb am yr ymarferiad.
1B, sy’n gyn-swyddog gwarant, oedd yn gyfrifol am ddysgu’r ymarferiad.
Mae’r ddau yn gwadu un cyhuddiad yr un o esgeulustod wrth gwblhau eu dyletswydd.