Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud eu bod nhw wedi arestio 70% yn llai o blant y llynedd nag y gwnaethon nhw yn 2010.

Mae’r ffigurau wedi’u cyhoeddi yn dilyn ymchwil gan yr elusen Cynghrair Howard Dros Ddiwygio Cosbau, a hynny yn dilyn cais drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cafodd 1,040 o blant o dan 17 oed eu harestio yn y gogledd y llynedd, o’i gymharu â 3,420 yn 2010.

Drwy Gymru a Lloegr gyda’i gilydd, roedd gostyngiad o 68% – o 250,000 i 79,012 yn yr un cyfnod. Ac mae’r ffigurau wedi gostwng yn raddol bob blwyddyn ers sefydlu rhaglen arbennig.

Targedau

Serch hynny, mae’r ymchwil hefyd yn nodi meysydd lle mae gwelliannau’n bosibl – o leihau nifer y plant mewn gofal sy’n troseddu i leihau’r nifer sy’n troseddu ac sy’n lleiafrifoedd ethnig.

Yn ôl yr ymchwil, mae cadw plant allan o’r system gyfiawnder yn helpu i atal troseddau – po fwyaf o gyswllt maen nhw’n ei gael â’r system, fwya’ tebygol ydyn nhw o droseddu eto.

Dywedodd prif weithredwr Cynghrair Howard Dros Ddiwygio Cosbau, Frances Crook fod agwedd Heddlu’r Gogledd at leihau nifer y plant sy’n cael eu harestio sydd wedi cyfrannu at y ffigurau.

“Mae’n gyflawniad rhagorol gan yr heddlu a Chynghrair Howard, ac mae’n golygu y bydd gan ddegau o filoedd o blant ddyfodol mwy llewyrchus heb fod eu gobeithion mewn bywyd yn cael eu heffeithio gan gyswllt diangen â’r heddlu a chofnodion troseddol.”