Mae’r newyddiadurwraig ddadleuol Katie Hopkins wedi corddi’r dyfroedd unwaith eto drwy ofyn a yw’r Saesneg wedi’i gwahardd yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru.

Daeth y cwestiwn ar ei thudalen Twitter wrth iddi “alw ar rieni Cymru” am ateb.

Wrth roi’r is-bennawd, “Parthed Addysg Cyfrwng Cymraeg Orfodol”, mae hi’n mynd yn ei blaen i ofyn, “A yw’r Saesneg wedi’i gwahardd fel cyfrwng sgwrs yn ystafell ddosbarth eich plentyn?”

Mewn cwestiwn pellach, mae hi’n gofyn, “A yw eich plentyn wedi’i effeithio?” cyn gofyn y cwestiwn atodol, “Ydych chi’n addysgwr cartref yng Ngheredigion?”

Mae’r neges wedi cael ei haildrydar ddegau o weithiau, ac mae degau o bobol wedi ymateb iddi hyd yn hyn.