Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi camau diogelwch yn dilyn ymosodiad rhyw difrifol ar ddynes ddydd Llun diwethaf (Medi 3).
Wrth apelio am wybodaeth, mae’r heddlu’n dweud eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Heol Kendon a Parkway dinas Casnewydd rhwng 7.40 ac 8.40 y noson honno.
Pwysleisiodd yr heddlu mai digwyddiad unigol oedd hwn, a bod mwy o heddlu yn yr ardal ers yr ymosodiad.
Cyngor
Wrth rybuddio pobol o’r hyn y gallan nhw ei wneud er mwyn aros yn ddiogel, dywedodd yr heddlu fod modd dilyn y cyngor canlynol:
- Rhowch wybod i rywun lle’r ydych chi’n mynd ac am ba hyd fyddwch chi allan.
- Lawrlwythwch ap ffitrwydd fel bod aelod o’r teulu neu ffrind yn gallu dilyn eich symudiadau – a chofiwch am y gosodiadau preifatrwydd.
- Ewch â’ch ffôn gyda chi, a sicrhewch fod gennych chi fatri llawn.
- Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw, a meddyliwch am lefydd prysur neu sydd wedi’u goleuo’n ddigonol.
- Ystyriwch redeg neu gerdded gyda phobol eraill.
- Os ydych yn teimlo’n annifyr, chwiliwch am le diogel lle mae pobol eraill a rhowch wybod i rywun am eich pryderon.
- Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchfyd – canolbwyntiwch ar yr hyn sydd o’ch cwmpas a phwy sydd o’ch cwmpas.
- Peidiwch ag ymgolli yn eich ffôn symudol neu chwaraeydd MP3. Sicrhewch y gallwch chi glywed popeth o’ch cwmpas.