Glaniodd tîm pêl-droed Cymru yn Aarhus yn Denmarc nos Sadwrn ar ôl cryn oedi yn sgil nam ar yr awyren.

Yn dilyn yr oedi cyntaf, roedd disgwyl iddyn nhw adael am 5.30 ond ar ôl oedi pellach, gadawodd yr awyren faes awyr Caerdydd am 8.30 ac mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau iddyn nhw lanio yn Denmarc yn ddiweddarach.

Roedd y newid i’w hamserlen yn golygu nad oedd modd cynnal cynhadledd i’r wasg gyda’r rheolwr Ryan Giggs ar ôl iddyn nhw gyrraedd.

Bydd Cymru’n herio Denmarc yn Aarhus am 5 o’r gloch heddiw (dydd Sul).