Mae tŷ ar stad fawr o dai ym Mangor wedi cael ei gipio gan yr heddlu mewn cyrch gwrth-gyffuriau.

Fe fydd 18 Llys Dylan ar stad Maesgeirchen wedi’i selio ac ar gau tan 6.30pm heno, pryd y bydd yn cael ei ddychwelyd at y landlordiaid cymdeithasol sydd berchen ar yr eiddo.

Yn y cyfamser, mae’n drosedd i unrhyw un fynd i mewn i’r tŷ.

Yn ôl yr heddlu, fe wnaed y rhybudd cau o ganlyniad i dystiolaeth fod yr eiddo’n gysylltiedig â chyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Meddai’r Arolygydd Doug Hughes o dȉm plismona Bangor: “Mae hyn yn anfon neges i’r unigolion hynny sydd am droseddu yn y gymuned gan darfu ar fywyd trigolion yr ardal.

“Gall ymddygiad o’r fath gael effaith niweidiol ar unigolion a’r gymuned ehangach ac ni fydd hyn yn cael ei ddioddef.

“Hoffwn ddiolch i Gartrefi Cymunedol Gwynedd, y trigolion lleol a’r gymuned leol am eu cefnogaeth yn y mater hwn a byddwn yn parhau i weithredu yn erbyn y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath.”