Mae ysgol uwchradd Gymraeg  wedi derbyn ei disgyblion cyntaf ym Mhort Talbot yr wythnos hon.

Agorodd Ysgol Gymraeg Bro Dur ei drysau i 230 o ddisgyblion blwyddyn saith ag wyth yn ardal Traeth Melyn (Sandfields) ym Mhort Talbot.

Daeth y disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymraeg Ystalyfera a thair ysgol gynradd leol, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan, Tyle’r Ynn a Chastell-nedd.

Cyfleusterau i’r gymuned

Mae’r campws newydd sbon gwerth £18 miliwn yn cynnwys cyfleusterau a meysydd chwaraeon a all fod o fudd i’r gymuned ehangach.

Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot sydd wedi ariannu’r ysgol newydd, sydd wedi ei chodi er mwyn sicrhau bod  “disgyblion hynny sydd am flynyddoedd wedi gorfod wynebu taith hir i gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera, bellach yn gallu parhau â’u hastudiaethau yn eu cymuned leol”.

Mae’r ysgol newydd yn parhau yn rhan o Ysgol Gymraeg Ystalyfera, ac mae’r Prifathro, Matthew Evans wrth ei fodd gydag agoriad y cyfleuster ardderchog hwn yn ne sir Castell Nedd Port Talbot.

“Rydym yn hynod o falch bod Ystalyfera yn gallu ymestyn ei darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc lleol o fewn eu cymunedau eu hunain.

“Mae Bro Dur yn fuddsoddiad aruthrol sy’n gweld buddiannau addysg Gymraeg yn cael eu hymestyn o fewn Castell-nedd Port Talbot ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddatblygu partneriaethau newydd yn y dyfodol agos.

“Dyna pam fod yr ysgol yn cynnal digwyddiad drysau agored ym Mro Dur ddydd Mawrth nesaf, 11ain o Fedi o 3.30 – 6.30pm, er mwyn dechrau’r perthnasau holl bwysig hyn “.

Y disgyblion ar ben eu digon

Lilly Emanuel, 12 oed ac o Faglan: “Roedd y daith i Ystalyfera ar y bws yn cymryd amser hir, ond erbyn hyn rwyf yn yr ysgol mewn deng munud!  Mae’n newid mor fawr ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol ym Mro Dur ”

Darcie Hewitt, 11 oed ac o Sgiwen: “Dw i mor gyffrous i fod yn yr ysgol newydd sbon hon.  Roedd bod yn rhan o raglen Llysgenhadon Adeiladu Bro Dur yn gyfle gwych i weld y broses adeiladu gyfan o’r dechrau i’r diwedd.”

Iona Walker Hunt, 11oed ac o Aberafan: “Cyn i mi ddechrau roeddwn ychydig yn nerfus, oherwydd roedd yn golygu pobl newydd, ysgol newydd a chymuned newydd.  Ond yn gyflym iawn rydw i wedi teimlo gartrefol ac wedi cael fy nghroesau i Fro dur “.

 ‘Pennod newydd’

“Mae hwn yn ddechrau pennod newydd sbon yn hanes addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot,” meddai’r Cynghorydd Alun Llewelyn, Cadeirydd y Corff Llywodraethu.

“Y flwyddyn academaidd hon byddwn yn dathlu agoriad Ysgol Gyfun Ystalyfera yn 1969 gyda dim ond 330 o ddisgyblion.

“Mae’r ffaith ein bod yn agor Ysgol Gymraeg Bro Dur eleni yn parhau â thraddodiad gwych Ystalyfera i genhedlaeth newydd o blant a phobl ifanc yr ardal hon.  Dymunaf bob llwyddiant posibl iddynt.”