Mae’r Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi beirniadu Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am “gamarwain ffermwyr” ynglun â’r taliadau y bydd y diwydiant yn ei dderbyn wedi Brexit.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi annog eu haelodau i wrthod cynigion Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y Cynllun Taliad Sylfaenol a chyflwyno dwy raglen newydd yn ei le.

Mewn ymateb i hyn, mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi llythyr agored heddiw at holl ffermwyr Cymru yn egluro pam na fydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn addas i Gymru wedi Brexit.

Dywed hefyd y dylai ffermwyr fynegi eu barn trwy gyfrwng yr ymgynghoriad swyddogol sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru tan fis Hydref.

“Camarweiniol”

“Rwyf wedi manteisio ar bob cyfle dros yr haf i gyfarfod â ffermwyr mewn sioeau amaeth ac yn ystod ymweliadau eraill er mwyn trafod yr ymgynghoriad,” meddai.

“Mae angen i ffermwyr gydweithio â ni er mwyn sicrhau bod hyn yn gweithio ac nid yw ymgyrch diweddar a chamarweiniol yr FUW yn helpu’r sefyllfa.

“Dyma pam rwy’n ysgrifennu at holl ffermwyr Cymru heddiw er mwyn pwysleisio’r angen am newid.”

Wynebu heriau Brexit

Mae disgwyl i’r cynlluniau ariannu newydd ar gyfer y diwydiant amaeth ddod i rym erbyn 2025.

Yn eu plith, mae system o grantiau busnes a chronfa a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am wella’r amgylchedd.

Mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd heriau Brexit yn gwneud y system ariannu bresennol yn anaddas i ffermwyr Cymru.

Ychwanega y bydd y system newydd o daliadau yn “ffordd gynaliadwy o gystadlu” wedi Brexit.