Mae peint o gwrw yng Nghymru yn costio £3.48 ar gyfartaledd, yn ôl ymchwil newydd.

Mae hyn tipyn yn is na’r cyfartaledd o £3.69 ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, sy’n gynnydd o 9c ers y llynedd.

Mae’r ymchwil wedi’i baratoi ar gyfer rhifyn newydd o’r Good Pub Guide, sy’n nodi bod prisiau yn amrywio o £1 mewn rhai rhannau o wledydd Prydain.

Yn ôl golygydd y llyfr, Fiona Stapley, mae’r cynnydd mewn prisiau o ganlyniad i gyfuniad o godiad mewn trethi busnes, rhenti a chyflogau uchel.

Y ffigyrau

Mae’r peint rhataf yng ngwledydd Prydain, yn ôl y Good Pub Guide, yn swyddi Amwythig a Henffordd, lle mae peint yn costio £3.37 ar gyfartaledd rhwng y ddwy ardal.

Yr un mor rhad hefyd yw peint mewn ardaloedd fel Swydd Stafford (£3.40), Swydd Efrog (£3.42) a Swydd Northhampton (£3.44).

Mae’r peint drutaf yn Llundain, gyda’r pris yn y ddinas fawr yn £4.44 ar gyfartaledd, tra bo peint yn ardaloedd Surrey a Herfordshire yn £3.97 a Berkshire a Sussex yn £3.93.

Y pris ar gyfartaledd yn yr Alban yw £3.79.

Mae’r Good Pub Guide, sydd â 37 o rifynnau hyd yn hyn, yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Ebury, ac yn cynnwys dros 5,000 o dafarndai ledled gwledydd Prydain.