Mae’r ymchwiliad i ddiswyddiad y diweddar Carl Sargeant o Lywodraeth Cymru wedi’i ohirio ar ôl i’w deulu gyflwyno her gyfreithiol.

Cafodd y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau ei ddiswyddo yn dilyn honiadau am ei ymddygiad rhywiol, ac fe gyflwynodd ei deulu apêl yn yr Uchel Lys fis diwethaf yn herio’r ffordd y bydd yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Mae Paul Bowen QC sy’n arwain yr ymchwiliad wedi ei atal am y tro cyn derbyn canlyniad adolygiad barnwrol.

Mae gwraig Carl Sargeant, Bernie, wedi mynegi pryder y gallai gwybodaeth gael ei chelu yn ystod yr ymchwiliad. Ac mae’r teulu’n gofidio na fyddai hawl gan eu cyfreithwyr holi tystion, ac na fyddai tystiolaeth lafar yn cael ei chlywed yn gyhoeddus.

Maen nhw hefyd yn herio rheolau a allai eu gwahardd rhag mynd i wrandawiadau yn ystod yr ymchwiliad.

Y cefndir

Fe ganfuwyd Carl Sargeant yn farw yn ei gartref yng Nglannau Dyfrdwy ym mis Tachwedd y llynedd, ddyddiau’n unig wedi iddo gael ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru a’i wahardd o’r blaid.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones ymchwiliad annibynnol i’w ddiswyddiad.

Ond mae cyfreithiwr yn dweud na fyddai’n “briodol” parhau â’r ymchwiliad cyn i’r adolygiad barnwrol ddod i ben.