Mae’r heddlu’n ymchwilio i ymosodiad ar blismon yn Trefyclo, Powys.

Fe ddigwyddodd yn oriau mân fore Sul, Awst 26 wrth i’r heddlu ymateb i ffrwgwd.

Fe gafodd y plismon ei daro i’r llawr yn ystod y digwyddiad.

Dywed llefarydd ar ran yr heddlu fod yr ymosodiad yn “annerbyniol”, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.