Mae’r Gymraes, Amelia Womack, wedi’i hail-ethol yn ddirprwy arweinydd y Blaid Werdd ar ôl ennill 54% o’r bleidlais.

Cafodd hi ei geni a’i magu yng Nghasnewydd, ac roedd hi’n ymgeisydd yng Nghaerdydd yn ystod etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Bydd hi’n parhau i ymgyrchu tros system ynni cynaliadwy i Gymru, yn ogystal â hawliau merched.

Cafodd Jonathan Bartley a Sian Berry eu hailethol yn gyd-arweinyddion ar ôl ennill 74% o’r bleidlais. Maen nhw wedi addo sicrhau mai’r Blaid Werdd fydd trydedd plaid fwyaf Prydain o dan eu harweinyddiaeth.

Yn ogystal, maen nhw’n anelu i sicrhau bod ganddyn nhw aelod ar bob cyngor yng Nghymru a Lloegr, gan frwydro yn erbyn gwleidyddiaeth “henffasiwn”.

‘Angen hwb ar Gymru’

Yn dilyn y canlyniad, dywedodd Amelia Womack fod angen “hwb ar Gymru” o fewn y blaid, fisoedd ar ôl i aelodau bleidleisio yn erbyn dwy blaid ar wahân i Gymru a Lloegr.

“Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen hybwr ar Gymru ar gyfer dyfodol ynni glân. Boed hynny’n adeiladu atomfa Wylfa ym Môn neu’r slwj niwclear sy’n cael ei bwmpio i mewn i’n dyfroedd o atomfeydd Seisnig, mae’n amlwg fod pobol Cymru’n ôl-ystyriaeth o safbwynt agenda ynni’r Ceidwadwyr.

“Mae’r Blaid Werdd yn cynnig gweledigaeth newydd, gliriach i Gymru, a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â Sian a Jonathan i wthio am fuddsoddiad mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy glân ar gyfer ein cenedl, megis Morlyn Llanw Bae Abertawe.

“Mae hefyd yn hanfodol bwysig fod Cymru’n arwain ar hawliau merched,” ychwanegodd, gan alw am wneud gwreig-gasineb yn drosedd a chodi ymwybyddiaeth o hawliau LGBTQIA+.

Ychwanegodd mai ei nod yw “sicrhau nad yw’r un person o Gymru’n teimlo fel dinesydd eilradd yn ein gwlad”.