Mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn galw ar gynghorwyr Môn i beidio â rhoi caniatâd cynllunio i gwmni Horizon.

Mae’r cwmni’n bwriadu agor gorsaf bŵer newydd ar hen safle Wylfa ger pentref Cemaes yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, a bellach mae cais wedi ei gyflwyno i baratoi a chlirio’r safle hwnnw.

Heddiw (dydd Mercher, Medi 5), mae mudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) yn mynd i fod yn erfyn ar Bwyllgor Cynllunio Cyngor Môn i wrthod y cais.

Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn galw ar y Cyngor cyfan i “geryddu” Horizon am “ysgubo hawl draddodiadol pobol leol” i wrthwynebu’r cais.

Pam bod gwrthwynebiad?

Mae PAWB yn honni bod yna lu o resymau tros wrthwynebu’r cais, yn cynnwys:

  • Bydd y prosiect yn achosi “dinistr amgylcheddol”
  • Mae’r safle yn ffinio ag Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn
  • Mi fyddai’n bygwth rhywogaethau dan warchodaeth amgylcheddol
  • Mi fyddai safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn cael eu colli
  • Mi fyddai’n amhosib adfer y safle i’w gyflwr presennol

Honiadau gan PAWB yw’r uchod, ac mae golwg360 wedi gofyn i Horizon am ymateb.