Mae twf sin fwyd Aberystwyth yn “addawol” yn ôl perchennog bwyty yn y dref sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Brydeinig.

Cafodd ‘Pysgoty’ ei sefydlu gan Craig Edwards a’i wraig Rhiannon dros dair blynedd yn ôl, ac eleni mae’r bwyty wedi ei enwebu am deitl ‘Bwyty Bwyd Môr y Flwyddyn’.

Dyma’r unig fusnes o Gymru ar y rhestr fer – mae sawl bwyty o Gernyw a Llundain yn cystadlu yn eu herbyn – a dyma ei henwebiad cyntaf am y teitl.

Wrth drafod Aberystwyth, mae Craig Edwards yn dweud nad oes “nunlle gwell i fod” pan fo’r tywydd yn braf, ac mae’n siarad â balchder am gyflwr sîn fwyd y dref.

“O ystyried maint Aberystwyth, mae’r dref yn haeddu cael llond llaw o fwytai da er mwyn denu pobol i’r ardal ac er budd y bobol leol hefyd,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n teimlo fel bod yr arlwy yn Aberystwyth yn ehangu bob blwyddyn. Mae gennym ni Medina, a nawr mae Byrgyr newydd agor. Mae’r holl beth yn addawol.”

Pysgota

Mae Pysgoty yn anelu at “gefnogi pysgotwyr lleol” felly mae’r mwyafrif o’r pysgod maen nhw’n gweini yn cael ei ddal yn lleol.

A gan fod y bwyty yn sefyll ar lannau harbwr Aberystwyth, mae’n bosib i  gwsmeriaid weld eu bwyd yn cael ei gludo o’r cwch i’r lan, meddai Craig Edwards.

Mae’r drefn honno yn destun balchder i’r perchennog, ond mae’r ffaith bod cyn lleied yn manteisio ar gynnyrch Bae Ceredigion yn destun tristwch iddo.

“Mae yna gasgliad da o fwyd môr yn ein bae, a dydy’r rhan fwyaf o bobol ddim yn sylweddoli hynny,” meddai. “Mae’n drist o feddwl bod gymaint ohono’n mynd i’r cyfandir a’n cael ei werthu yno.”