Mae cynghorydd ac ymgyrchydd tros wasanaeth bysus teilwng yng Ngwynedd, yn dweud y dylai’r cyngor sir ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ei redeg ei hun.

Mae’r Cynghorydd Aeron M Jones wedi bod yng nghanol yr anhrefn ers i Express Motors golli eu trwydded ddiwedd y flwyddyn 2017, ac mae’n dweud ei fod “gant y cant yn bendant” mai’r ateb yw i’r awdurdod gymryd at y gwaith.

“Dylai bod cwmni hyd braich gan y Cyngor sy’n rhedeg y gwasanaethau,” meddai wrth golwg360. “Byddai hynny’n golygu bod rheolaeth lem arno fo, rheolaeth gall arno fo, a bod yna wasanaethau i bobol Gwynedd.

“Hefyd, fyddai yna ddim elfen o elw yn mynd allan i gwmnïau allanol,” meddai Aeron Jones. “Dw i’n gweld dim problem â Chyngor Gwynedd yn rhedeg y gwasanaeth â chwmni hyd fraich. Baswn gant a chant yn gefnogol o hynny.”

Diffyg arian, a gwneud y gorau

Dan y drefn sydd ohoni, rhaid i gwmnïau gasglu digon o arian wrth gefn er mwyn gallu rhedeg fflyd o fysus – ac mae hyn yn rhwystro sawl cwmni rhag tendro am waith, meddai Aeron Jones.

“Dydi’r arian yna ddim gan gwmnïau yma yng ngogledd Cymru, felly mae o’n anodd iawn, ac mae Gwynedd yn ardal wledig, felly mae’n broblem cael cwmnïau yma.

“Ond, er nad ydi’r gwasanaeth sydd ganddon ni ar hyn o bryd ddim yn wych, a dydi o ddim yn ffantastig, mae o’n ddigonol,” meddai Aeron Jones.

“Hynny ydy, does dim bws pob awr fatha oedd ‘na o’r blaen, ond mae o’n cael pobol i’w gwaith, adre o’u gwaith, ac mae’n cael plant i’r ysgol. A dyna ydi’r flaenoriaeth.”

Y cefndir

Dydd Sul diwethaf, (Medi 2) fe ddaeth trwydded cwmni Tacsi Gwynedd ei chanslo oherwydd bod eu cerbydau yn cael eu hystyried yn “risg” i ddiogelwch y cyhoedd.

Ddoe (dydd Llun, Medi 3) fe ymddangosodd rhai o aelodau staff Express Motors gerbron llys wedi eu cyhuddo o dwyll.

Roedd y ddau gwmni yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngwynedd ar un adeg, a bellach mae’r ddau gwmni wedi colli’u trwyddedau.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am ymateb.