Gyda’i phoblogaeth yn heneiddio, a Brexit yn prysur agosáu, rhaid cyflwyno diwygiadau er mwyn lleddfu’r straen ariannol ar Gymru.

Dyna yw rhybudd dau o brif economegwyr y wlad, Eurfyl ap Gwilym a Gerry Holtham, mewn erthygl ddiweddar ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.

Mae blynyddoedd o gyni ariannol wedi achosi “problemau difrifol” i sector cyhoeddus Cymru, meddai’r ddau, ac maen nhw’n dadlau bod polisi llymder San Steffan yn “debygol o barhau”.

Mae’r pâr hefyd yn pryderu am y “risg ychwanegol” a ddaw o ddatganoli pwerau treth incwm i Gymru, ac maen nhw’n cwestiynu a fydd San Steffan yn camu i’r adwy pan ddaw grantiau Ewrop i ben.

O ystyried hyn i gyd, rhaid darganfod ffordd o drawsnewid y drefn yng Nghymru a’i gwneud yn fwy effeithlon, meddai Eurfyl ap Gwilym a Gerry Holtham.

Yr opsiynau

Yn yr erthygl mae’r economegwyr yn rhestru opsiynau posib, a allai leddfu’r straen ariannol ar Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lleihau rôl y Llywodraeth mewn rhai meysydd;
  • Ffeindio ffordd o wneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon;
  • Cynyddu refeniw trwy godi arian am rai gwasanaethau cyhoeddus.