Mae’n bosib bydd tîm pêl droed Cymru’n profi gêm llawer haws na’r disgwyl yn erbyn Denmarc ddydd Sul (Medi 9).

Ers rhai misoedd bellach, mae chwaraewyr a chymdeithas pêl-droed Denmarc wedi bod yn ffraeo tros gytundeb hawliau masnachol, ac ar nos Sul (Medi 2) daeth yr anghydfod i’w anterth wrth i gyfnod trafod y ddwy ochr ddod i ben.

Yn ystod yr wythnos hon mi fydd Cymru a Slofacia yn chwarae gemau yn erbyn y wlad Sgandinafaidd, fel rhan o gystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd.

Ond oherwydd y ffrae fewnol gyda Denmarc, mae’n bosib bydd chwaraewyr o gynghreiriau is y wlad yn cael eu gwahodd i gynrychioli eu gwlad, ac mae hynny yn debygol o olygu y bydd Cymru’n wynebu tîm o ansawdd is, ac yn wynebu gêm lai heriol.

“Hanfodol”

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau ein bod yn chwarae’r ddwy gêm,” meddai Llywydd Cymdeithas Pêl Droed Denmarc, Jesper Moller wrth Sky Sports.

“Felly, mae’r bwrdd wedi trafod gydag ein rheolwyr, ac wedi gofyn iddyn nhw sicrhau bod y tîm cryfaf posib yn chwarae’r ddwy gêm.”