Mae cynghorau yng Nghymru wedi buddsoddi dros £600 miliwn mewn cwmnïau ffracio tramor, yn ôl adroddiad.
Daw’r arian o gronfeydd pensiwn yr awdurdodau lleol, ac mae’n debyg bod y cwmnïau yma yn ffracio mewn gwledydd tramor gan gynnwys yr Ariannin a Chanada.
Ar hyn o bryd, mae yna waharddiad dros dro ar ffracio yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried peidio caniatáu rhagor o drwyddedi yn y dyfodol.
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, y corff sy’n gyfrifol am yr adroddiad, mae yna elfen o ragrith i’r drefn sydd ohoni.
“Fydd yna ddim trwyddedau ffracio yn cael eu dyfarnu yn ardaloedd y cynghorau pan fydd gwaharddiad yn dod i rym yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran y corff, Bleddyn Lake.
“Felly dw i ddim yn credu y dylai bod nhw’n elwa o ffracio mewn ardaloedd pobol eraill. Rhaid gweld ymrwymiad clir oddi wrthyn nhw i ddod â’r buddsoddiadau yma i ben.”
Canfyddiadau’r adroddiad
- Mae cynghorau Cymru wedi buddsoddi £600,421,640 mewn cwmnïau ffracio
- Cynghorau Gwent sydd wedi buddsoddi’r swm uchaf, sef cyfanswm o £149,930,309
- Cynghorau Dyfed oedd yn ail, gyda buddsoddiad o £130,721,187 rhyngddyn nhw
Mae’r data wedi cael ei rhyddhau gan Gyfeillion y Ddaear ar y cyd â Platform a 350.org.
Egwyddorion
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud eu bod yn annog “datblygu egwyddorion buddsoddi moesegol”.
Ac mae llefarydd ar eu rhan yn nodi bod pob un o gronfeydd pensiynau Cymru yn “rhoi ystyriaeth fanwl” i effaith cymdeithasol eu buddsoddiadau.
“Yn y pen draw, cyfrifoldeb y cronfeydd pensiynau yw penderfyniadau o’r fath, a ddylai fod yn gweithredu o dan eu Datganiad Strategaeth Buddsoddi,” meddai’r llefarydd.
“Mae llawer o’r cronfeydd yn dirprwyo dewis stoc i gwmnïau buddsoddi arbenigol sy’n cyflawni rôl rheolwr asedau.”