Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ail gyfnod ymgyrch fawr sy’n canolbwyntio ar rôl teuluoedd yn y broses rhoi organau.

Mae tair hysbyseb wedi’u paratoi sy’n dangos dewis unigolyn i roi organau yn cael ei ddiystyru gan aelodau o’i deulu, gan na wnaeth drafod ei benderfyniad â nhw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae arolygon yn dangos bod tua 80% o bobol ledled y Deyrnas Unedig yn cefnogi rhoi organau, ond dim ond 33% sydd wedi dweud wrth eu teulu am eu bwriad.

Siarad â pherthnasau

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i siarad â’u teuluoedd yn ystod Wythnos Rhoi Organau, sy’n cychwyn heddiw (dydd Llun, Medi 3).

Maen nhw’n dweud bod teuluoedd yn fwy tebygol o wrthod caniatáu rhoi organau pan nad ydyn nhw wedi cael gwybod gan eu hanwyliaid am eu penderfyniad.

Yn 2017-18, mae data a gafodd ei gyhoeddi gan adran Gwaed a Thrawsblaniadau’r Gwasanaeth Iechyd yn dangos bod 22 achos yng Nghymru lle’r oedd teuluoedd wedi mynd yn groes i benderfyniad eu perthnasau neu wrthod ei gefnogi.

O ystyried bod 32 o organau ar gyfartaledd wedi’u tynnu fesul rhoddwr yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, fe allai hynny fod wedi golygu cynifer â 70 o drawsblaniadau ychwanegol.

“Rhaid inni weithio’n galetach”

“Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr yn ein cyfraddau cydsynio, sydd wedi cynyddu o 59% yn 2015-16 i 70% yn 2017-18,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Fodd bynnag, gan fod pobol yn marw o hyd wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio’n galetach byth i gynyddu’r gyfradd cydsynio ymhellach er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad.”