Bu farw’r tenor a’r cyfarwyddwr cerdd o Lanelli, Kenneth Bowen, yn 86 oed.

Cafodd ei eni a’i fagu yn nhre’r sosban cyn mynd ymlaen i dderbyn addysg ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaergrawnt.

Fe enillodd nifer o wobrau cerdd yn ystod y 1960au a bu’n perfformio’n gyson gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, y Royal Opera a’r English National Opera.

Perfformiodd hefyd yn Arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon yn 1969, yn ogystal â chyngerdd agoriadol Neuadd Dewi Sant yn 1983.

Bu’n feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn bennaeth ar Astudiaethau Llais yr Academi Frenhinol yn Llundain.

Roedd hefyd yn sefydlydd Corâl Cymry Llundain ac yn gyfarwyddwr cerdd arni rhwng 1983 a 2008.

Derbyniodd radd anrhydeddus Doethur mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Bangor yn 2003.

“Ysbrydoliaeth”

 Wrth gyhoeddi ei farwolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fab, Meurig Bowen, fod ei dad yn “ysbrydoliaeth” iddo ef a’i frawd, Geraint.

“Trist yw rhannu bod fy nhad annwyl wedi marw yn ei gwsg ddoe yn 86 oed,” meddai ar y wefan gymdeithasol Twitter.

“Roedd yn ysbrydoliaeth gerddorol i fi a Geraint o’r cychwyn. Sanctus Fortis.”