Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i achos o daro a ffoi yng Nghaerdydd sydd wedi gadael dyn 24 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Tarodd cerbyd i mewn i’r dyn ar Ffordd Caerffili’r brifddinas toc ar ôl 1 o’r gloch fore heddiw.
Wnaeth y cerbyd ddim stopio yn dilyn y digwyddiad, a chafodd y claf ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae ei fywyd mewn perygl.
Mae lle i gredu mai cerbyd lliw arian oedd wedi ei daro, a bod difrod i’r car.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.