Fe ddylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnal gwyliau haf ysgolion yn gynharach yn y flwyddyn, yn ôl yr Arglwydd Dafydd Wigley.
Yn ei golofn wythnosol yn y Daily Post, mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru’r pwerau i newid dyddiadau’r gwyliau.
Ac mae’n dadlau y dylwn gynnal gwyliau ysgolion rhwng mis Mehefin a dechrau Awst, yn hytrach na’u cynnal rhwng Gorffennaf a Medi, yr un fath â Lloegr.
Mae’n dweud bod y tywydd yn well ym misoedd Awst a Gorffennaf, ac y byddai trefn hwnnw yn golygu llai o straen ariannol ar deuluoedd.
“Pam na allwn ni gael rhywfaint o ddychymyg gan Lywodraeth Cymru tros y materion yma?” meddai Dafydd Wigley. “Onid yw hi’n hurt bod ysgolion yn torri am yr ‘haf’, fis ar ôl i’r haf ddod i ben?
“Does dim anghenraid bod Cymru yn dilyn Lloegr. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i newid dyddiadau gwyliau. Mi allan nhw fabwysiadu’r patrwm Albanaidd.
“A dw i’n amau y byddai hynny yn gwneud mwy o synnwyr i’r rhan fwyaf o ddosbarthiadau.”
Gwyliau byrrach?
Mae Dafydd Wigley hefyd yn tynnu sylw at y ddadl y gallai gwyliau byrrach, ond amlach, fod o fudd i blant yng Nghymru.
Gan gyfeirio at gynigion gan Llŷr Gruffydd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru a’u llefarydd tros faterion addysg, mae’n dadlau y byddai’r diwygiad yn lleddfu’r straen ariannol ar deuluoedd.
“Gwnaeth [Llŷr] gynnig ein bod yn byrhau tymhorau ysgol, a bod gwyliau yn amlach a’n fyrrach,” meddai. “A’i ddadl oedd y byddai hynny’n creu fframwaith dysgu gwell.
“Yn ystod gwyliau ysgol hir mae plant yn anochel yn anghofio rhywfaint o’r hyn y maen nhw wedi dysgu. Mae cyfnodau gwyliau mor hir hefyd yn rhoi pwysau mawr ar gostau gofal plant.
“Mae’r costau yma yn taro teuluoedd incwm isel yn galed.”