Mae’r heddlu wedi taflu dŵr oer tros gynlluniau i adeiladu clwb nos anferthol yng Nghaerdydd.

Mae Live Nation (Music) UK yn bwriadu agor clwb yn Sblot a fyddai’n medru dal 10,000 o bobol, ac mae’r cwmni yn gobeithio cynnal gigs, ffilmiau a dramâu yno.

Ond mae Heddlu’r De yn pryderu am ddefnydd cyffuriau a diogelwch yn y fath le, ac wedi rhestru llu o amodau i Gyngor Caerdydd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gosod camerâu ar gyrff bownsers y clwb
  • Sicrhau bod gan staff ‘gwialenni’ sy’n medru datganfod metel
  • Gosod cŵn sy’n medru arogli cyffuriau wrth bob mynedfa
  • Sicrhau bod gwirod yn cael eu gweini wedi’u cymysgu â mixer (diod meddal)
  • Rhaid penodi staff i helpu pobol gerdded o’r clwb i ganol y ddinas
  • Sicrhau bod pob cwpan yn blastig

Cais

Mae Live Nation – rhan o grŵp ehangach sydd â phencadlys yn Hollywood – wedi mynnu eu bod yn brofiadol, a’n barod i gydymffurfio ag amodau unrhyw drwydded.

Yn ogystal mae arweinydd Cyngor Caerdydd ac un o gynrychiolwyr ward Sblot, Huw Thomas, wedi cefnogi’r cais i agor y ‘Titan Warehouse’.

Bydd Cyngor Caerdydd yn ystyried y cais heddiw.