Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn herio Lloegr mewn gêm dyngedfennol yng Nghasnewydd yn ddiweddarach.

Er gwaetha’r feirniadaeth am faint y stadiwm, bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Rodney Parade ac mae disgwyl torf o 5,000 – dim ond 250 o rheiny fydd o Loegr.

Ac mi fydd yr enillydd yn hawlio’i le yn nhwrnamaint Cwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesa’.

Mae’r ddwy wlad yng ngrŵp 1, ond mae gan Gymru bwynt yn fwy na Lloegr – mae’r crysau cochion wedi chwarae un gêm yn fwy.

Petai Lloegr yn colli, byddai’n rhaid iddyn nhw guro Kazakhstan ar Fedi 4 er mwyn neidio i frig y grŵp. Gêm gyfartal oedd y gêm ddiwetha’ rhwng y ddwy wlad.

Bydd y gêm yn dechrau am 7.45yh, a bydd modd ei wylio’n fyw ar BBC Two Wales.