Pe bai’n ennill yr ornest i arwain Plaid Cymru, mae Rhun ap Iorwerth wedi addo bod yn “radical” i wella’r economi.

Mae’r ymgeisydd wedi amlinellu heddiw ei weledigaeth i weddnewid economi Cymru, yn hytrach na dim ond “rheoli dirywiad” ariannol y wlad.

Yn ôl ei restr o syniadau, mae angen dechrau drwy wella’r system addysg i roi’r sgiliau gorau i bobol ifanc gael swyddi sy’n talu’n dda yng Nghymru.

Mae AC Ynys Môn hefyd yn dweud bod “arloesi” yn allweddol er mwyn i Gymru lwyddo ac efelychu esiampl Gwlad y Basg, sydd wedi adfywio ei heconomi.

“… Mae’n rhaid i Gymru ddod yn arloeswr ym mhob maes o gynllunio economaidd. Rhaid i ni chwilio am opsiynau allforio newydd a bod yn hyderus am le mae Cymru’n ffitio gorau o fewn marchnadoedd rhyngwladol,” meddai.

“Rhaid i ni adnabod ac arbenigo mewn sectorau allweddol; rhaid i ni ddatblygu strategaeth ynni/ddiwydiannol er mwyn gwneud y mwyaf o’n hadnoddau naturiol a dod o hyd i ffordd o ychwanegu gwerth ato… a rhaid i ni annog entrepreneuriaeth.”

Syniadau eraill

Mewn erthygl ar ei gynlluniau dros yr economi, dywed hefyd y byddai’n;

  • Sefydlu comisiwn isadeiledd, gyda chylch gorchwyl ehangach na’r un bresennol, er mwyn gwneud mwy o waith adeiladu
  • Cynyddu’r gyfran o brosiectau caffael sy’n cael ei wario yng Nghymru, gyda’r posibilrwydd o greu 4,000 o swyddi.
  • Sefydlu asiantaeth ddatblygu newydd i edrych ar farchnadoedd newydd
  • Ehangu’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes drwy fanc cenedlaethol cyhoeddus a fyddai’n gallu codi benthyciadau ac ecwiti cyfalafol i fusnesau yng Nghymru.

Annibyniaeth yn “ganolbwynt”

“Wrth gwrs, bydd y cyfleoedd go iawn yn dod drwy gymryd rheolaeth dros yr holl lifers ein hunain a chael yr anogaeth ychwanegol o geisio am ffyniant economaidd fel gwlad annibynnol,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“… Dw i wastad wedi’i wneud yn genhadaeth i mi berswadio pobol eraill i gymryd uchelgais genedlaethol i’r lefel nesaf, ac fel arweinydd y Blaid, byddai hynny wastad yn ganolbwynt.

“Torri ffiniau i lawr, mynd i’r afael ag ofnau, meithrin hyder a pherswadio pobol bod potensial economi Cymru wrth wraidd y fenter honno.”