Mae holiadur gan yr NSPCC yn dangos bod un disgybl ym mhob ysgol gynradd ar gyfartaledd wedi derbyn llun anweddus gan oedolyn tros y We.

Dyma’r holiadur mwya’ erioed o’i fath, sy’n awgrymu hefyd bod un ym mhob 50 o ddisgyblion ysgol wedi anfon delwedd noeth neu hanner noeth at oedolyn a bod cannoedd o droseddau yng Nghymru.

Mae ymgyrch yr elusen yn galw ar Lywodraeth Prydain i greu rheoleiddiwr annibynnol i ofalu am wefannau cymdeithasol er mwyn atal plant rhag cael eu targedu.

Cafodd bron i 40,000 o blant rhwng saith ac 16 oed eu holi am beryglon ar y We ac, yn dilyn cais trwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fe ddaeth i’r amlwg fod 3,000 o droseddau yng Nghymru a Lloegr o fewn y flwyddyn gynta’ ar ôl i ddeddfwriaeth newydd ddod i rym.

Troseddau yng Nghymru

Cafodd 274 o droseddau eu cofnodi yng Nghymru, a mwy na’u hanner (158) yn ardal Heddlu’r De.

Roedd 53 o droseddau yn ardal Heddlu’r Gogledd, 44 yn ardal Heddlu Gwent tros flwyddyn ac 19 yn ardal Heddlu Dyfed-Powys dros gyfnod o chwe mis.

Digwyddodd y mwyafrif o’r troseddau ar wefannau Facebook, Instagram a Snapchat.

Ystadegau

Roedd y ffigurau’n uwch eto mewn ysgolion uwchradd, gydag un ym mhob 20 o ddisgyblion rhwng 12 a 16 oed yn dweud eu bod wedi derbyn delwedd anweddus.

Dywedodd rhai eu bod nhw’n adnabod yr oedolion oedd wedi anfon y delweddau atyn nhw.

Mae sylwadau’r plant yn yr holiadur yn awgrymu bod ‘secstio’ – anfon negeseuon testun o natur rywiol – yn dod yn arfer ymhlith plant 12 a 13 oed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar y We i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

‘Porth i gam-drin plant’

Fe fu NSPCC Cymru’n galw ers tro am lunio strategaeth er mwyn gwella diogelwch ar y We.

Dywedodd prif weithredwr NSPCC, Peter Wanless na ellir gwthio ymddygiad o’r fath i’r naill ochr bellach.

“Mae’n digwydd nawr, mae’n digwydd i bob plentyn ifanc, mae’n digwydd mor aml nes ei fod yn cael ei normaleiddio. Mae gwefannau cymdeithasol wedi dod yn borth i gamdrin plant.”