Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datgelu eu bod yn ystyried gwneud cais ar y cyd am Gwpan y Byd yn 2030.

Yn ôl y Prif Weithredwr, Jonathan Ford, mae yna astudiaeth ar droed i weld a fyddai’n bosib cynnal y gystadleuaeth yng ngwledydd Prydain.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales y byddai cais ar y cyd gyda Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gyfle gwych.

Mae corff rhyngwladol y gamp wedi awgrymu y bydden nhw’n edrych yn ffafriol ar gais gan wledydd Prydain yn y flwyddyn pan fydd y cwpan ei hun yn 100 oed.

Y flwyddyn nesa’

Fydd dim penderfyniad am gais tan yn hwyr y flwyddyn nesa’, meddai Jonathan Ford yn y cyfweliad radio ac fe bwysleisiodd y byddai’n rhaid i’r ymdrech fod ar y cyd.

“Y realit yw y bydd wastad yn bartneriaeth a’r partner rhesymegol yw Lloegr,” meddai. “Ond Cwpan y Byd, gyda’r holl wledydd cartref … Waw! dyna gyfle.”

Mae Lloegr wedi methu gyda cheisiadau diweddar ond fe fyddai’r canmlwyddiant yn cael ei ystyried yn achlysur arbennig gan fod gwledydd Prydain yn hawlio mai yno y dechreuodd y gêm.

Yng Nghymru, dim ond Stadiwm y Principality sy’n ddigon mawr i gynnal gêmau Cwpan y Byd; yn ôl y Gymdeithas, fe fydd angen 16 o safleoedd sy’n dal 40,000 o bobol.

Ond mae’r stadiwm yng Nghaerdydd eisoes wedi cynnal gêmau anferth, yn y byd rygbi a Chynghrair Pencampwyr Ewrop yn 2017.