Mae Cyngor Ceredigion wedi ymddiheuro ar ôl iddyn nhw osod 50 o ddogfennau cyfrinachol ar eu gwefan ar ddamwain.

Bellach mae’r dogfennau – rhai yn cynnwys manylion personol – wedi cael eu tynnu oddi ar y wefan, ond mae’r camgymeriad wedi denu ymateb chwyrn, ac mae pryderon wedi’u codi.

“Cafodd nifer o adroddiadau eithriedig eu dangos ar wefan y Cyngor oherwydd gwall,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor wrth golwg360. “Mae’r adroddiadau nawr wedi cael eu tynnu o’r wefan.

“Hoffai’r Cyngor ymddiheuro am y gwall yma. Mae ymchwiliad yn parhau i mewn i’r wybodaeth eithriedig oedd ar gael ar-lein ac mae mesurau’n cael eu rhoi ar waith i wella’r system.”

Mae’r Cyngor, meddai’r llefarydd, wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, a bydd canlyniad eu hymchwiliad yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr pan fydd wedi ei gwblhau.

Dogfennau

Dyw hi ddim yn glir pa mor hir yr oedd y dogfennau’n gyhoeddus, ond mae’n debyg bod modd eu gweld ddydd Iau diwetha’.

Fe gawson nhw eu tynnu oddi ar y wefan ar y ddydd Gwener wedi i bapur y Cambrian News dynnu sylw’r Cyngor at y sefyllfa.

Yn ôl John Roberts, Cynghorydd Ward Faenor, mae’n “warthus” fod y deunydd wedi’i osod ar y safle yn y lle cyntaf.