Mae un o gynghorwyr Ceredigion wedi beirniadu’r awdurdod lleol am osod 50 o ddogfennau cyfrinachol ar eu gwefan.

Bellach mae’r dogfennau – rhai yn cynnwys manylion personol – wedi’u tynnu oddi ar y wefan ar ôl i bapur newydd y Cambrian News dynnu sylw atyn nhw, ac mae’r achos wedi’i gyfeirio at y Comisiynydd Gwybodaeth.

Ymhlith y dogfennau, meddai’r papur, roedd:

  • manylion personol yn gysylltiedig â grantiau a gafodd eu rhoi i bobol am resymau meddygol.
  • gwybodaeth am gynlluniau busnes, gan gynnwys adroddiad a oedd yn honni bod cwmni – gyda chefnogaeth yr archfarchnad Tesco – am feddiannu safle hen farchnad Llanbedr Pont Steffan.
  • gwybodaeth am drafodaethau ynglŷn â symud clybiau rygbi a phêl-droed Llanbedr Pont Steffan i Heol Llanwnnen, fel bod modd datblygu eu safle presennol.

‘Sori dim digon da’

Yn ôl Cynghorydd Ward Faenor, John Roberts, mae’n “warthus” fod y deunydd wedi’i osod ar y safle yn y lle cyntaf – “Fydd sori ddim yn ddigon da,” meddai.

“Pan ’yn ni’n cael cyrddau yn y siambr maen nhw’n pwysleisio bod rhaid symud pethau cyfrinachol o’r siambr,” meddai wrth golwg360. “A dydyn ni ddim fod dweud wrth neb.

“Ac eto y bobol sy’n edrych ar ôl y cyfrinachau [sydd wedi methu y tro yma]. Mae’n gyrru fi’n grac bod y pethau yma yn digwydd. Alla i ddeall ei fod wedi digwydd ar ddamwain, ond dyw e ddim yn iawn.”

“Tu ôl drysau”

Mae John Roberts yn pryderu bod materion y Cyngor yn  “cael eu trafod tu ôl drysau” ac yn ansicr os caiff y cyhoedd wybod beth aeth o’i le.

“Dyw hyd yn oed cynghorwyr Plaid weithiau ddim yn cael clywed yr hanes i gyd,” meddai. “Dw i ddim yn siŵr faint ddaw i’r golwg o’n blaen ni’r cynghorwyr.”

Er gwaetha’r helynt diweddaraf, mae’r Cynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud ei fod yn “teimlo’n sori” dros Brif Blaid y Cyngor, Plaid Cymru, a’n nodi eu bod yn “ofalus fel arfer”.

Dogfennau

Yn ôl adroddiad y Cambrian News roedd modd gweld y dogfennau ddydd Iau diwetha’ (Awst 23) a dyw hi ddim yn glir am ba mor hir yr oedden nhw’n gyhoeddus.

Fe gawson nhw eu tynnu oddi ar y wefan ar ddydd Gwener (Awst 24) wedi i’r papur dynnu sylw’r Cyngor at y sefyllfa.

Ymateb y Cyngor

Mae Cyngor Ceredigion wedi ymddiheuro am y camgymeriad ac wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hefyd, mae Arweinydd grŵp Plaid Cymru Ceredigion, Ellen ap Gwynn, wedi ymateb i feirniadaeth y Cynghorydd gan fynnu bod y dogfennau wedi bod ar y wefan ers 2004, pan oedd clymblaid yr Annibynwyr a Democratiaid Rhyddfrydol mewn grym.

Mae’r ffigwr hefyd yn herio’r honiad mai’r Cambrian News wnaeth ddarganfod y broblem.