Rhaid “ail feddwl” y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl ymhlith plant, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Daw ei sylw yn sgil cyhoeddiad adroddiad gan Gymdeithas y Plant, sy’n dangos bod bron i chwarter o ferched 14 oed yn hunan-niweidio.

Yn ôl y Comisiynydd, Sally Holland, mae’r ffigwr yn “ddychrynllyd” a rhaid newid y modd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu.

“Rydyn ni angen gofal hyblyg sy’n helpu pobl ifanc pan maen nhw angen help, ble bynnag maen nhw ar eu siwrnai iechyd meddwl,” meddai.

“Os nac ydyn ni ddim yn ail feddwl sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu, fyddwn ni ddim yn darparu’r gofal cywir i bobol ifanc.”

“Mater o bwys”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad trwy ddweud bod “iechyd emosiynol a meddyliol ein pobol ifanc yn fater o bwys”.

Maen nhw hefyd, medden nhw, yn “buddsoddi’n sylweddol” yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobol yn eu Harddegau.

Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru eisoes yn darparu gwasanaethau cwnsela i blant ym mlwyddyn ola# ysgolion cynradd ac i bobol ifanc 11 i 18 oed.

Canfyddiadau

Cafodd 11,000 o blant eu holi gan Gymdeithas y Plant, a gwnaeth yr elusen ddarganfod bod:

  • 46% o blant hoyw, lesbiaidd a deurywiol wedi hunan-niweidio
  • Un o bob chwe phlentyn wedi hunan-niweidio pan oedden nhw’n 14 blwydd oed
  • 22% o ferched wedi hunan-niweidio yn ystod y flwyddyn cyn yr arolwg
  • 9% o fechgyn wedi hunan-niweidio yn ystod y flwyddyn cyn yr arolwg