Mae un chwaraewr yn cael anaf i’w ben ym mhob gêm rygbi oedolion erbyn hyn, yn ôl arbenigwraig ar anafiadau chwaraeon.

Yn y dacl y mae’r rhan fwya’ o achosion o gyfergyd – concussion – yn digwydd a’r taclwr ei hun sydd mewn mwya’ o beryg, meddai Dr Isabel Moore o Brifysgol Fetropolitaidd Caerdydd.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales bod angen i’r gêm newid a rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau yn hytrach na grym.

Rheolau newydd

Roedd sywladau’r academydd, sy’n rhan o grŵp ymchwil ar anafiadau, yn dod wrth i awdurdodau’r gêm arbrofi gyda rheolau newydd am uchder taclo.

Ond roedd hi’n pwysleisio bod un chwaraewr o bob tîm yn cael cyfergyd bod yn ail gêm erbyn hyn a bod nifer yr achosion wedi dyblu yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Roedd hynny’n rhannol, meddai, oherwydd gwell dealltwriaeth o natur yr anafiadau.

Y cefndir

Mae nifer o chwaraewyr enwog, gan gynnwys asgellwr Cymru, George North, wedi cael trafferthion gydag anafiadau i’r pen.

Mae yna bryder cynyddol y gallai’r peryg o anafiadau fod yn cadw rhai pobol ifanc rhag cofleidio’r gêm, wrth i’r gamp gyflymu a chynnwys rhagor o wrthdaro uniongyrchol.