Mae dyn 87 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddedfrydu ar ôl iddo gyflawni gweithred anweddus yng ngŵydd grŵp o Dystion Jehofa.

Roedd Kenneth Edwards wedi dinoethi a phleseru ei hun o flaen y grŵp, a oedd yn cynnwys tair dynes a dau blentyn 11 ac wyth oed, tra oedden nhw’n mynd o dŷ i dŷ yn sôn am y Beibl ar Fehefin 15.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod yr henwr wedi cyflawni’r weithred o flaen ffenest ei stafell fyw ar ôl iddo weld y grŵp yn sefyll y tu allan i’w fyngalo yn Sarn.

Yn ôl Alexandra Maetlwaneng, un o fenywod y grŵp, roedd y digwyddiad wedi’i gadael yn “sâl yn gorfforol”.

Y ddedfryd

Fe gafodd Kenneth Edwards ei arestio yn ei gartref yn Sarn, ac yn wreiddiol roedd wedi gwadu dinoethi ei hun yn fwriadol i’r grŵp.

Dywedodd ei fod wedi bod yn noeth am gyfnod byr oherwydd ei fod yn newid o’i ddillad nos.

Ond plediodd yn euog i’r cyhuddiad yn ei erbyn ddoe (dydd Llun, Awst 27), a bellach mae wedi derbyn gorchymyn cymunedol am ddwy flynedd.

Mae’n rhaid iddo hefyd gwblhau 25 diwrnod o adferiad, ynghyd â hysbysu’r heddlu ynghylch cyfeiriad ei gartref yn ystod y pum mlynedd nesa’.