Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth llanc 17 oed a syrthiodd ar glogwyni gerllaw Llandudno ddoe.

Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw ychydig cyn 2 o’r gloch bnawn ddoe ar ôl adroddiadau bod rhywun wedi syrthio o ben clogwyni ger y Marine Drive, y ffordd sy’n amgylchynu’r Gogarth y tu allan i’r dref.

Cadarnhawyd bod y llanc 17 oed, o ardal Stockport, wedi marw yn y fan a’r lle.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru nad oes rhagor o fanylion ar hyn o bryd, ond eu bod nhw’n gweithio gyda’r Crwner ar ddarganfod amgylchiadau’r farwolaeth.