Mae dyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe mewn cysylltiad â thân yn Aberystwyth fis diwethaf.
Mae Damion Harris, 30, o Lanbadarn Fawr ger Aberystwyth, wedi’i gyhuddo o achosi tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.
Aeth gwesty Tŷ Belgrave ar dân ar Orffennaf 25, ac mae dyn o Lithwania ar goll o hyd yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd naw oedolyn a thri phlentyn eu hachub o’r adeilad, a bellach mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cysylltu â theulu’r dyn sydd ar goll.
Mae Damion Harris wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron y llys unwaith eto ym mis Medi.