Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi derbyn dirwy £10,000 am symud gwartheg tra’r oedd cyfyngiad TB (tiwberciwlosis) mewn grym.

Mae Russell David Law, sy’n rhedeg fferm laeth ger Felin-wen, Caerfyrddin, hefyd wedi cael ei ryddhau’n amodol am 24 mis.

Tra’r oedd cyfyngiad symud gwartheg mewn grym, fe symudodd da byw o’i ffarm yn Llanfryn, i dair fferm arall yn Sir Gâr, ac un yng Ngheredigion.

Wrth wneud hynny, fe dorrodd Gorchymyn Tiwberciwlosis Cymru gan roi ffermydd yn y ddwy sir mewn perygl.

Gerbron ynadon, mi fynnodd Russell David Law ei fod wedi ceisio trefnu trwydded symud, ond bod yr awdurdodau priodol wedi bod yn wael wrth gyfathrebu ag ef.

“Anghyfrifol”

“Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau yn erbyn pobl sy’n dewis torri’r cyfreithiau a gynlluniwyd i ddiogelu masnach amaethyddol onest a bioddiogelwch,” meddai’r Cynghorydd Philip Hughes, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr dros Ddiogelu.

“Mae’r ffermwr hwn wedi gweithredu’n anghyfrifol, nid yn unig o ran ei wartheg ei hun, ond o ran ffermydd eraill ledled y rhanbarth.”