Mae bwrdd iechyd yn ne Cymru wedi galw ar y cyhoedd i gymryd mwy o ofal wrth gael rhyw, yn sgil “cynnydd sylweddol” mewn achosion o syffilis, clefyd sy’n medru achosi problemau difrifol os nad yw yn cael ei drin.

Ers mis Ebrill mae 56 achos o’r haint wedi eu cadarnhau yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

Ac mae’n debyg y cafodd 16 o’r rhain eu cadarnhau yn ystod y pythefnos diwethaf.

Rhwng Ebrill a Medi y llynedd cofnodwyd dim ond 11 achos yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sy’n golygu bod pum gwaith yn fwy o achosion wedi’u cofnodi eleni.

Y tywydd poeth a defnydd o’r We sy’n rhannol gyfrifol am y cynnydd, yn ôl y bwrdd iechyd.

Gwefannau

“Yn gyffredinol mae yna gynnydd wedi bod ledled Cymru yn nifer yr achosion o syffilis,” meddai’r Prif Nyrs tros Iechyd Rhyw, Joanne Hearne.

“Ond rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn ardal y bwrdd iechyd, yn enwedig dros y chwe wythnos diwethaf.

“Mae’n bosib bod y tywydd poeth wedi annog pobol i fod yn fwy actif yn rhywiol. Rydym hefyd yn credu bod cyfryngau cymdeithasol a gwefannau canlyn wedi cyfrannu rhywfaint.”

Syffilis

Haint sy’n cael ei drosglwyddo yn rhywiol yw syffilis, ac mae’r symptomau yn cynnwys: briwiau, tyfiannau ar y croen, pennau tost a blinder.

Dyw rhai pobol ddim yn dangos unrhyw symptomau, ac felly mae’r bwrdd iechyd yn annog y cyhoedd i ymweld â’u clinigau lleol.

Mae modd trin syffilis gyda brechiad, neu gyda chwrs o gyffuriau gwrthfiotig.

Heb driniaeth mae’r syffilis yn medru lledu i’r ymennydd neu rannau eraill o’r corff gan achosi problemau difrifol.