Mae gwefan newydd wedi ei sefydlu yn galw ar Aelodau Cynulliad i anwybyddu Aelodau UKIP yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Ac mae arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi ymateb trwy ddweud y byddan nhw’n ystyried gwneud hynny.

Ond yn ôl UKIP Cymru, mae’r wefan yn “enghraifft arall o frefu hysterig sefydliad gwleidyddol ofnus Cymru”.

Yn ôl canllaw ymddygiad sydd wedi ei gyflwyno gan sylfaenwyr y wefan, mae angen troi cefn ar bump Aelod Cynulliad y blaid wrth-Ewropeaidd a gwrthsefyll “yr adain dde eithafol” yng Nghymru.

Mae Cordon Sanitaire Cymru yn cyfeirio at y term o greu mesurau i atal dylanwadau annymunol rhag lledu. Cafodd y wefan ei sefydlu ar ôl i Gareth Bennett gael ei ethol yn arweinydd UKIP yn y Cynulliad.

Cafodd y canllaw ei gyflwyno gan yr ymgyrchwyr Huw Williams a Simon Brooks ychydig fisoedd yn ôl ond mae’r wefan yn gwthio’r syniad ar drothwy tymor newydd yn y Senedd.

Mae canllaw Calon Lân: Cod ymarfer er mwyn rheoli ymwneud ag UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys chwe phwynt sydd wedi eu hanelu at ACau.

Yn ôl y canllaw dylid “cyfyngu ymddangosiadau cyhoeddus gydag ACau UKIP i’r lleiafswm a fynnir gan y gyfraith” ac “ni ddylai ACau UKIP fod yn aelodau o’r grwpiau diddordeb trawsbleidiol…”

“Dewis i wleidyddion”

“R’yn ni’n rhoi dewis i wleidyddion rhwng gwrthsefyll yr adain dde eithafol yng Nghymru neu barhau i’w normaleiddio nhw,” meddai sylfaenydd y wefan, Carl Morris.

“Dylen nhw wneud mwy i osod cordon sanitaire yn eu herbyn, sef troi cefn ar UKIP.”

Yn ôl UKIP Cymru, mae’r wefan yn “enghraifft arall o frefu hysterig sefydliad gwleidyddol ofnus Cymru”.

“Mae UKIP yn herio uniongrededd sefydliad cywirdeb gwleidyddol Bae Caerdydd ac yn cynrychioli mwyafrif distaw sydd wedi cael digon.

“Mae ymgais y bobol hyn i rwystro cysylltiad rhwng UKIP a phleidiau eraill yn sarhad i’r 132,000 o bobol Cymru a bleidleisiodd dros UKIP yn etholiad diwethaf y Cynulliad Cenedlaethol.

“Waeth beth mae pleidiau’r sefydliad yn dewis ei wneud, fyddan nhw byth yn atal UKIP rhag siarad dros y bobol yng Nghymru oedd heb lais yng ngwleidyddiaeth Cymru cyn 2016.”

Ond mae sefydlydd y wefan yn gwadu eu bod yn tarfu ar ddemocratiaeth nac ar ryddid UKIP i fynegi barn fel aelodau etholedig.

“Does neb yn cyfyngu ar eu hawliau nhw i fynegi barn,” meddai Carl Morris.

“Mae angen i ni feddwl yn ddoeth am wir ystyr democratiaeth. Does neb yn gwadu bod UKIP wedi cael seddi yn ein Cynulliad yn ddemocrataidd ond mae yna hefyd rym democrataidd gydag Aelodau Cynulliad eraill i wrthsefyll a pheidio â chydweithio gyda nhw.”

Plaid Cymru yn symud at cordon sanitaire

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, eisoes wedi galw am cordon sanitaire yn erbyn UKIP yn dilyn sylwadau Gareth Bennett ar y byrca a chadarnhaodd y blaid y bydd yn “adolygu ein hymwneud bychan iawn ag UKIP cyn gynted ag y bydd y Cynulliad yn ail-ymgynnull”.

Mwy yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.