Mae disgwyl i ddyn 30 oed fynd gerbron Llys y Goron Abertawe heddiw mewn cysylltiad â thân mewn gwesty yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf.

Mae Damion Harris, o Lanbadarn Fawr ger Aberystwyth wedi’i gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cysylltu â theulu dyn o Lithwania sydd wedi bod ar goll ers y tân yng ngwesty Tŷ Belgrave ar nos Fercher, Gorffennaf 25.

Cafodd naw oedolyn a thri phlentyn eu hachub o’r adeilad.