Mae Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud bod ganddi “weledigaeth glir ar gyfer dyfodol y sefydliad”.

Daw sylw Clare Pillman, wedi i’r naturiaethwr, Iolo Williams, feirniadu’r corff ar y wefan hon, gan ddadlau bod angen “newidiadau ysgubol ar y lefelau uchaf”.

Rheoli adnoddau naturiol Cymru yw rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, ond dros y blynyddoedd diwetha’ mae’r sefydliad wedi dod dan y lach am y mofd y mae’n mynd o gwmpas y gwaith. 

Yn dilyn y feirniadaeth ddiweddaraf gan Iolo Williams, a’i honiadau o “gamreoli”, mae Clare Pillman wedi dweud ei bod yn “hyderus” am ddyfodol y corff.

“Un o’r pethau sydd wedi fy rhyfeddu fwyaf ers ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r angerdd, yr arbenigedd a’r ymrwymiad sydd gan ein staff i’r amgylchedd – ar bob lefel,” meddai.

“Mae gennym waith anodd iawn i’w wneud, ac weithiau rhaid inni wneud penderfyniadau anodd, ond rydym bob amser yn eu gwneud yn unol â deddfwriaeth gan gydbwyso anghenion yr amgylchedd, pobol a’r economi.”

Mae’r Prif Weithredwr wedi dweud ei bod yn fodlon trafod â Iolo Williams, a’n dweud bod Llywodraeth Cymru wrthi’n penodi Cadeirydd a Bwrdd newydd i CNC.

Cigfrain

Cafodd beirniadaeth Iolo Williams ei sbarduno’n rhannol gan flog a gafodd ei sgwennu gan y cadwraethwr, Rob Sheldon.

Yn ei flog mae Rob Sheldon yn tynnu sylw at achos lle wnaeth CNC ganiatáu trwydded difa, a arweiniodd at 23 cigfran yn cael eu saethu.

Cafodd y creaduriaid brodorol yma eu saethu er budd ffesantod – “adar estron sydd yn cael eu rhyddhau yn eu miliynau er mwyn cael eu saethu” yng ngeiriau Iolo Williams.

Bellach mae CNC wedi amddiffyn dyfarniad y drwydded trwy nodi bod ffesantod ‘estron’ yn ‘dda byw’ yn ôl deddfwriaeth, ac mae atal difrod i ‘dda byw’ oedd y nod.

Yn ogystal mae’r corff yn dweud mai nifer “isel iawn” o’r trwyddedau yma sydd wedi’u rhoi, a’u bod wedi ymgynghori ag arbenigwyr adar cyn eu dyfarnu.