Mae angen i bobol ymfalchïo yn eu hacenion, boed nhw’n gweithio yn y cyfyngau neu’n cyfansoddi caneuon roc a phop.

Dyna yw barn Richard Jones, sy’n hanu o Aberteifi, yn bennaeth ar gwmni Recordiau Fflach ac yn brif leisydd i’r band roc Ail Symudiad.

Er ei fod wedi byw ar ben deheuol Ceredigion erioed, mae’n mynnu bod tafodiaith Sir Benfro wedi dylanwadu arno yn fwy.

Ac mae hyn, meddai cyfansoddwr ‘Garej Paradwys’ a Whisgi a Soda’, wedi dod i’r amlwg “ambell waith” yn ei ddarnau cerddorol.

“Dw i’n falch o’ fe,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n falch iawn i siarad fel ydw i. Dw i’n falch iawn o fy ngwreiddiau.”

Ond, er ei falchder yn ei acen ei hun, mae Richard Jones yn pryderu bod pobol sydd yn gweithio mewn rhai meysydd yn cael ei rhwystro rhag ymfalchïo.

“Dw i wedi clywed pobol sydd yn gweithio yn y cyfryngau yn dweud bod nhw ffaelu defnyddio’u tafodiaith sy’n drist dw i’n meddwl,” meddai.

“Wedi gweud hynny, mae’n rhaid i chi ddefnyddio Cymraeg BBC siŵr o fod. Ond, os dw i’n cael cyfweliad radio, dw i byth yn newid fy nhafodiaith.”

Geiban

Mae Richard Jones yn canmol artistiaid sy’n defnyddio geiriau tafodieithol yn eu caneuon, ac yn awgrymu y dylai rhagor o artistiaid wneud hyn.

Mae’n tynnu sylw yn benodol at Y Bandana a Geraint Lövgreen, sef dau artist sydd wedi defnyddio’r term ‘geiban’ – sef, meddwi – yn eu caneuon.

Gallwch weld Richard Jones yn rhannu ambell air tafodieithol isod…