Mae angen “newidiadau ysgubol ar y lefel uchaf” i’r corff cenedlaethol sydd â’r gwaith o amddiffyn amgylchedd Cymru, yn ôl y naturiaethwr, Iolo Williams.

Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei sefydlu gyda’r nod o “reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy”.

Ond tros y blynyddoedd diwetha’ mae wedi dod dan y lach am ei weithredoedd, gyda sgandal gwerthiant pren ymhlith yr achosion diweddaraf.

Pryder Iolo Williams yw bod y corff “yn cael ei gamreoli”, a dyna pam y mae’r naturiaethwr yn galw am graffu “manwl iawn” arno, gan sefydliadau yn cynnwys Llywodraeth Cymru.

“Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru staff arbennig yn gweithio iddyn nhw ar y lefel canol ac ar y lefel isaf – mae yna bobol arbennig yna,” meddai wrth golwg360.

“Ond dydyn nhw ddim yn medru gwneud eu gwaith yn iawn o achos y ffordd maen nhw’n cael eu rheoli.

“Mae ganddyn nhw bobol mewn swyddi dylanwadol iawn na ddylai byth fod yna. A does dim un person mewn un o’r prif swyddi sydd yn gadwraethwr neu’n gadwraethwraig go iawn.

“A does yna ddim un person ar y bwrdd sydd yn berson cadwraethol sydd â pharch gan gadwraethwyr eraill. Dyna pam mae byd natur a chadwraeth fel sa fo wedi cwympo i ffwrdd o’u hagenda nhw yn gyfan gwbwl.”

Blog

Daw sylwadau Iolo Williams yn rhannol fel ymateb i flog gan y cadwraethwr, Rob Sheldon, sy’n canolbwyntio ar  ymatebion Cyfoeth Naturiol Cymru i geisiadau ganddo am wybodaeth ynghylch y trwyddedau saethu cigfrain.

Mae’n debyg y cafodd pedwar trwydded ei rhoddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru rhwng 2015 a 2018 i saethu cigfrain yng Nghymru, ac mi arweiniodd hynny at hyd at 49 cigfran yn cael eu lladd.

O’r pedwar trwydded mae un achos penodol “yn arbennig o ddiddorol” yn ôl Rob Sheldon.

Cafodd y drydedd drwydded ei dyfarnu yn 2016, meddai, gyda’r nod o rwystro’r cigfrain rhag niweidio da byw.

Ond, mewn gwirionedd, mae’n ymddangos y cafodd 23 cigfran – creaduriaid brodorol – eu lladd er mwyn amddiffyn ffesantod, sydd ddim yn adar brodorol.

“Siomedig”

Wrth ystyried cynnwys y blog mae Iolo Williams yn cyfleu ei rhwystredigaeth at y sefyllfa, gan fod creaduriaid “estron” , meddai, wedi cael eu blaenoriaethu yn yr achos.

“Dw i’n siomedig tu hwnt efo Cyfoeth Naturiol Cymru am eu bod nhw’n trwyddedu lladd cigfrain er mwyn diogelu adar estron sydd yn cael eu rhyddhau yn eu miliynau er mwyn cael eu saethu.

“Dydi ffesantod ddim yn gynhenid i’r wlad yma, ac i mi, mae’n beth sarhaus eu bod nhw’n rhoi trwyddedi i ladd cigfrain er mwyn cynyddu niferoedd ffesantod.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru am ymateb.