Fe fydd plismon sy’n gweithio i Heddlu’r De yn wynebu achos llys ar ôl cael ei gyhuddo o daro bachgen 14 oed.

Mae’r Cwnstabl Paul Evans, 50, wedi’i gyhuddo o ymosod ar y llanc tra bod ei fam i fyny’r grisiau mewn eiddo ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr.

Fe wadodd y cyhuddiad pan aeth gerbron ynadon Caerdydd mewn gwrandawiad blaenorol.

Clywodd y llys fod y plismon wedi ymosod ar y bachgen, nad oes modd ei enwi, tra ei fod e wrth ei waith yn y dref.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn dilyn cwyn gan deulu’r bachgen.

Mae Paul Evans yn blismon ers 21 o flynyddoedd ac fe benderfynodd Gwasaneth Erlyn y Goron ddwyn achos yn ei erbyn.

Fe fydd yr achos yn dechrau ar Hydref 16, ac mae Paul Evans wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.