Mae teyrngedau wedi’u rhoi i yrrwr beic modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Dinbych ddydd Sadwrn (Awst 18).

Bu farw Thomas Patrick Reddock – Tommy i’w ffrindiau – yn y fan a’r lle pan darodd dau gerbyd yn erbyn ei gilydd, ar y A543 ger Bylchau.

Roedd ‘Tommy’ yn 70 blwydd oed, yn hanu o ardal Lerpwl, ac yn ffigwr “uchel ei barch” yn ei gymuned yn ôl ei deulu.

Teyrnged

“Roedd Tommy yn dad, brawd a thaid cariadus ac yn ffrind i nifer o bobol,” meddai ei deulu mewn teyrnged iddo.

“Roedd Tommy yn dod o ardal Kirkdale a Bootle ac yn uchel ei barch yn y gymuned. Roedd yn ddyn hael a chymdeithasol a oedd helpu eraill yn ei amser sbâr.

“Ni all geiriau fynegi ein tor-calon, mae rhan fawr o’r teulu wedi mynd. Bydd colled ar ei ôl.”

Apêl

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a oedd yn teithio ar hyd yr A543 ychydig cyn y gwrthdrawiad.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 3.45yp, a beic modur Honda CBR 600 a Peugeot 206 arian oedd ynghlwm ag ef.