Fe fydd Channel 4 yn darlledu cyfres ddrama newydd gan y dramodydd o Abertawe, Russell T Davies, wrth iddo roi sylw i’r argyfwng AIDS yng nghymuned dynion hoyw Llundain yn y 1980au.

Stori’r 1980au yw The Boys, meddai Channel 4, ac mae’n rhoi sylw i fywydau tri dyn ifanc hoyw sy’n gadael eu cartrefi am Lundain yn 1981 yn “llawn gobaith ac uchelgais a llawenydd”.

Ond mae’r tri yn cerdded i ganol un o argyfyngau mwya’r cyfnod.

Mae disgwyl i’r gyfres gael ei chreu y flwyddyn nesaf.

“Fe wnes i fwy trwy’r cyfnod hwnnw, ac mae wedi cymryd degawdau i fi adeiladu at hyn. Ac wrth i amser fynd yn ei flaen, mae perygl y caiff y stori ei hanghofio,” meddai Russell T Davies.

“Felly mae’n fraint cael ysgrifennu hon ar gyfer y rhai a gollon ni, a’r rhai a oroesodd.”

Dywedodd golygydd comisiynu drama Channel 4, Lee Mason fod y gyfres hon yr un mor bwysig â’r gyfres Queer as Folk, cyfres oedd wedi torri tir newydd ugain mlynedd yn ôl.

“Mae’n brosiect hynod bwysig sy’n teimlo’r un mor nodedig, yr un mor ddigyfaddawd a’r un mor uniongyrchol o’r galon.”

Gweithiau’r gorffennol

Fe gafodd Russell T Davies ei ganmol yn fawr am Queer As Folk yn 1999, oedd yn edrych ar fywydau tri dyn hoyw ym Manceinion yn ystod y degawd.

Mae hefyd yn adnabyddus am atgyfodi Doctor Who.

Ond fe ddywedodd y llynedd y byddai wedi ystyried ei hun yn fethiant fel awdur pen a bai e wedi llwyddo i lunio’i gyfres ddiweddaraf.

“Dw i wedi cael llawenydd mawr o lunio cymeriadau hoyw. Os y bydda’ i’n cyrraedd fy ngwely angau heb fod wedi ysgrifennu am yr argyfwng AIDS, bydda i’n ystyried fy hun fel un sydd wedi methu, os nad ydw i’n gwneud y stori hoyw fwyaf sydd erioed wedi digwydd.”