Mae llywodraethwr unig garchar gogledd Cymru wedi cael ei wahardd o’i waith, yn ôl adroddiadau.

Mae Russell Trent – Llywodraethwr Carchar y Berwyn ger Wrecsam – wedi ei wahardd yn sgil honiadau sydd wedi’u gwneud yn ei erbyn.

Mae’r Gwasanaeth Carchardai wedi cadarnhau ei fod wedi ei wahardd “fel rhan o’r drefn arferol” tra bod ymchwiliad ar droed.

Mae HMP Berwyn yn garchar categori C, yn dal dros 2,000 o garcharorion, ac fe gostiodd £250m i’w adeiladu.