Ni fyddai Cymru annibynnol yn medru fforddio talu am gynnal a chadw Wylfa Newydd, yn ôl Adam Price sy’n galw ar i Blaid Cymru wrthwynebu’r cynllun niwclear.

Heno, mae disgwyl i Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gyflwyno ei ddadl mewn digwyddiad ‘cyfarfod a thrafod’ ym mar Number 10 (Jolyns gynt), ar Heol y Gadeirlan, Caerdydd, fel rhan o’i ymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru.

Wrth siarad â golwg360 cyn y digwyddiad, dywed mai un mater pwysig i Gymru annibynnol fyddai osgoi gorfod wynebu “rhwymedigaethau ariannol” a fyddai’n anodd iddi eu fforddio.

“Ar sail hyn,” meddai Adam Price, “mae’n rhaid i’r blaid – ar lefel genedlaethol – fod yn glir yn ei wrthwynebiad i Wylfa B (Wylfa Newydd).”

Gormod o drydan i Gymru 

Mae Adam Price o’r farn bod yr orsaf niwcilar ar gyfer yr Wylfa wedi cael ei chynllunio i ddarparu mwy o drydan nag sydd ei angen trwy Cymru gyfan. Ac er bod y galw yn debygol o gynnyddu, meddai, fe fydd angen allforio cyfran sylweddol o’r trydan hwn.

“Os na fyddai modd sicrhau pryniant digonol gan gwsmeriaid o Loegr am bris a fydd yn debygol i fod yn llawer uwch na phris y farchnad, yna bydde baich talu am y trydan yn disgyn ar, unai trethdalwyr Cymru, neu ddefnyddwyr ynni yng Nghymru,” meddai Adam Price. “Byddai hyn yn faich enfawr.

“Fe allai arwain tuag at ddatgomisiynu’r orsaf ynni yn gynamserol, a fyddai’n cyflymu y costau dad-gomisiynu. Mae costau dad-gomisiynu eu hunain yn anrhagweladwy ac yn hanesyddol maen nhw wedi cael eu hariannu yn hollol annigonol.

“Byddai unrhyw gostau nad ydyn nhw wedi cael eu hariannu yn disgyn ar y wladwriaeth os nad oedd cytundeb wedi cael ei wneud gyda pherchnogion yr adnodd niwclear i ariannu unrhyw ddiffyg ariannol – ond fe fyddai hyd yn oed y gwarant masnachol yn gadael Cymru annibynnol gyda’r potensial o orfod wynebu dyledion enfawr.”

“Fel mae pethau yn sefyll ar hyn o bryd, felly, mae’n bosib i gefnogi Wylfa B neu annibyniaeth i Gymrui: ond mae’n anodd i weld sut y mae’n bosib i gefnodi’r ddau.”

Cymru annibynnol – gweledigaeth Adam Price 

Adam Price am gael annibyniaeth i Gymru