Fe wariodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, £350 o arian y trethdalwr yn ystod twrnamaint Cwpan y Byd eleni, er mwyn codi baner Lloegr uwchben ei bencadlys yn Llundain.

Yn ôl ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan grŵp o gefnogwyr pêl-droed Cymru o’r enw ‘Spirit of 942’, fe gafodd baner Lloegr ei gosod yn lle baner Cymru uwchben Tŷ Gwydyr ar Fehefin 28 – gweithred a gostiodd £175.

Yna, yn ystod oriau mân Mehefin 29, fe godwyd baner Cymru eto gan gostio £175 arall i’r trethdalwr.

Yn ystod y cyfnod, doedd dim Draig Goch arni yn cyhwfan uwch Tŷ Gwydyr, tra bod yna yna faner Lloegr a Jac yr Undeb yno.

Cwpan y Byd

Mae sawl sefydliad Cymreig arall wedi cael eu beirniadu am ddangos cefnogaeth i dîm pêl-droed Lloegr yn ystod twrnamaint Cwpan y Byd yn gynharach yr haf hwn.

Cafodd Stadiwm y Principality – Stadwm y Mileniwm gynt – eu ceryddu am annog defnyddwyr Twitter i awgrymu’r tîm pêl-droed Lloegr ‘delfrydol’.

Ac fe ddenodd canolfan digwyddiadau byw Tramshed yng Nghaerdydd feirniadaeth hallt ar y cyfryngau cymdeithasol am hysbysebu’r ffaith eu bod yn dangos gemau Lloegr yno.