Sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio – dyna ydi uchelgais Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru.

Mae Heléna Herklots, sy’n dechrau yn ei swydd heddiw (Awst 20) yn gwahodd unigolion, sefydliadau a chyrff – i weithio gyda hi i wella bywydau pobol hŷn. Mae hi hefyd am deithio ar hyd a lled Cymru i gwrdd â phobol hŷn o bob cefndir.

Dywed fod Cymru eisoes wedi darparu deddfwriaeth a pholisïau arloesol i wella bywydau pobol hŷn, ac y gellir adeiladu ar amrywiaeth eang o arferion da a gwaith arloesol i sicrhau bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd ar ran pobol hŷn.

“Mae Cymru wedi dangos ymrwymiad clir i wella bywydau pobol hŷn drwy ddatblygu’r strategaeth, a oedd yn gam mawr ymlaen, a sefydlu rôl Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, y swydd gyntaf o’i math yn y byd,” meddai.

“Yn fwy diweddar rydyn ni hefyd wedi gweld deddfwriaeth bwysig, yn ogystal â ffocws cryf ar les a hawliau, sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bobol hŷn ledled Cymru.

“Mae pobol hŷn yn gwybod yn well na neb pa gefnogaeth a gwasanaethau y maen nhw eu hangen a lle mae angen gwneud gwelliannau,” meddai wedyn.