Mae cannoedd o bobol wedi cael eu dal mewn tagfeydd traffig wrth adael Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog prynhawn ma.

Daeth yr ŵyl i ben am hanner dydd heddiw (dydd Llun, 20 Awst) ond yn ôl un o’r stiwardiaid, roedd yn rhaid i’r ceir aros am oriau cyn gadael.

Mae’n debyg fod un o’r lonydd yn agos at yr ŵyl ger Crughywel wedi gorfod cael ei chau wedi i bibell ddŵr dorri ddoe.

Fe achosodd hynny gryn drafferthion i’r cyflenwad dŵr yfed yn y maes gwersylla hefyd.

“Pibell ddŵr wedi torri”

Dywedodd Beth Rees ar ran trefnwyr yr ŵyl: “Cafodd y tagfeydd eu hachosi ar ôl i bibell ddŵr dorri ddoe oddi ar y safle. Yn anffodus, golygodd hyn fod angen i’r heddlu wedyn gau ffordd gyfagos a dim ond gadael trafnidiaeth allan o safle Gŵyl y Dyn Gwyrdd drwy un allanfa.

“Mae tîm Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi gwerthfawrogi amynedd pawb y prynhawn yma ac maen nhw wedi bod yn rhannu poteli o ddŵr i bawb oedd yn aros mewn ciw.”

Meddai llefarydd ar ran Dŵr Cymru: “Yn dilyn gollyngiad ar brif bibell ddŵr ar yr A4077 ddoe, er mwyn i ni allu trwsio’r bibell yn ddiogel, roedd y ffordd ar gau i draffig.

“Mae ein tîm wedi gweithio drwy’r nos er mwyn cwblhau’r gwaith trwsio fel bod modd agor un lôn o’r A4077 yn fuan heddiw ar gyfer traffig sy’n gadael safle Gwŷl y Dyn Gwyrdd gerllaw. Rydym yn gweithio yn agos gyda Heddlu Dyfed-Powys er mwyn hwyluso’r system un ffordd yma.

“Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra mae hyn wedi ei achosi i  gwsmeriaid a diolch iddynt am eu hamynedd.”

Tagfeydd

Meddai’r Rhingyll Owen Dillon o Heddlu Dyfed-Powys: “Rydym yn cydweithio’n agos gyda Dŵr Cymru a threfnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd i leihau’r amhariad i bobl yn gadael yr ŵyl heddiw. Mae pobol wedi wynebu oedi wrth adael y safle, yn bennaf oherwydd y nifer fawr o bobl yn gadael ar yr un amser.

“Mae yna dagfeydd ar hyn o bryd yng nghanol tref Crughywel ac ry’n ni’n gofyn i yrwyr wrando ar gyfarwyddiadau gan swyddogion yr heddlu a gweithwyr diogelwch sy’n gweithio’n galed i sicrhau fod pawb yn gadael mor ddiogel a chyflym a phosib.”